Ein ffocws

Therapïau’r ymennydd

Mae therapïau’r ymennydd yn cyfeirio at sbectrwm o ymyriadau meddygol a niwrodechnolegol datblygedig. Eu nod yw trin cyflyrau niwrolegol a niwroddirywiol. Rydyn ni’n dod ag arbenigedd mewn genomeg, niwrowyddoniaeth, seiciatreg a gwyddor data ynghyd i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf dybryd sy’n wynebu cymdeithas, megis dementia, sgitsoffrenia, anhwylderau symud, anhwylder deubegynol, clefyd niwrolidiol ac anhwylderau niwroddatblygiadol. Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar drosi darganfyddiadau genetig yn therapïau personol a datblygedig yn y byd go iawn.

Mae Caerdydd yn ennill ei lle fel canolfan fyd-eang ar gyfer y therapïau mewngreuanol datblygedig cyntaf mewn pobl, lle caiff triniaethau eu cyflwyno’n uniongyrchol i’r ymennydd. Cefnogir hyn gan CUBRIC a’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, sy’n cynnig delweddu, genomeg ac arbenigedd llawfeddygol o’r radd flaenaf.

Gofal canser y genhedlaeth nesaf

Yng Nghaerdydd ceir arbenigedd ymchwil canser glinigol ac academaidd flaenllaw, yng ngwyddoniaeth y labordy a threialon clinigol. Mae Partneriaid Iechyd Caerdydd yn defnyddio’r cryfderau hyn, gan eu cyfuno â galluoedd mewn genomeg, diagnosteg, gwyddor data a gwasanaethau canser y GIG i fynd â thriniaeth canser i’r lefel nesaf.

Mae Canolfan Ganser arbenigol newydd Felindre, taith gerdded fer o Cardiff Edge, yn cydweithio ym meysydd darganfod, datblygu a chyflawni. Mae Ysbyty Athrofaol Cymru gerllaw yn darparu arbenigedd cenedlaethol, o fewn pellter cerdded i sefydliadau ymchwil darganfod a throsiadol allweddol, gan gynnwys Canolfan Meddyginiaethau Canser Arbrofol Caerdydd, Canolfan Ymchwil Canser Cymru, Banc Canser Cymru, a’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn ffurfio Ardal Arloesi Canser Caerdydd. Gyda chyfraddau canser yn uwch na chyfartaledd y DU, mae Caerdydd yn fan profi go iawn ar gyfer treialu a graddio ffyrdd newydd o atal, cael diagnosis a thrin canser.

Mae’r tridarn wedi’i gynllunio i wella canlyniadau, cyflwyno ymchwil o’r radd flaenaf, galluogi therapïau uwch, a chreu ffrwd strwythuredig, o ddarganfod i gymhwyso clinigol. Mae gan CCRP ffrwd fywiog a chynaliadwy o weithgarwch treialon. Mae’r cynnydd hyd yma yn gryf ond mae’r gofod presennol a chapasiti’r gweithlu’n cyfyngu ar ehangu.

Galluoedd meddygaeth fanwl

Mae meddygaeth fanwl yn defnyddio profion genetig, dadansoddeg data, a biofarcwyr i ddeall sut mae gwahanol bobl yn ymateb i glefyd a therapi, gan wella canlyniadau ac effeithlonrwydd.  Mae meddygaeth fanwl yn dibynnu’n helaeth ar y gallu i gasglu, integreiddio a dadansoddi data genomig, delweddu, clinigol a biobanc ar raddfa fawr. Ein blaenoriaeth yw meithrin gallu data ffederal, delweddu a biobanc sy’n galluogi mynediad diogel, rhyngweithredol ar draws sefydliadau, gan bontio gwyddoniaeth ddarganfod i gymhwyso clinigol cyflym.

Cardiff Edge a Phatholeg Ranbarthol Cardiff Edge yw’r prif gampws pwrpasol ar gyfer gwyddor bywyd a thechnoleg yng Nghaerdydd a rhanbarth De-ddwyrain Cymru. Gyda 320,000 troedfedd sgwâr o le i ehangu, mae’n cynnig cyfle unigryw i greu ecosystem gwyddorau bywyd enghreifftiol sy’n cysylltu busnes, y byd academaidd a chyfleusterau labordy’r GIG mewn un lleoliad. Bwriedir datblygu’r cyfleuster labordy cyntaf yn fuan.