Datganiad i’r Wasg gan Brifysgol Caerdydd | I’w gyhoeddi ar unwaith – 01/12/2025
Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn dod ynghyd i greu Partneriaid Iechyd Caerdydd
Mae tri o brif bartneriaid Caerdydd ym maes iechyd yn dod ynghyd i greu partneriaeth unigryw newydd er mwyn ceisio gwella canlyniadau iechyd, ysgogi arloesi a sicrhau manteision parhaus i gleifion.
Bydd Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn dod ynghyd yn ffurfiol i greu Partneriaid Iechyd Caerdydd er mwyn gwella sut mae gofal iechyd yn cael ei roi, gan gynnwys sicrhau rhagoriaeth ym maes ymchwil, twf economaidd a lles cymdeithasol ledled y brifddinas a rhanbarth ehangach de-ddwyrain Cymru.
Mae’r bartneriaeth newydd yn gobeithio cyfrannu hyd at £800 at yr economi dros y degawd nesaf a chreu miloedd o swyddi crefftus ym maes y gwyddorau gofal iechyd.
Bydd hefyd yn creu cyfleoedd newydd i gydweithwyr weithio ar y cyd ym meysydd ymchwil, gofal clinigol ac addysg, cyfrannu at brosiectau arloesol sy’n gwella canlyniadau i gleifion yn uniongyrchol a datblygu sgiliau newydd sy’n ysgogi arloesi, gan sicrhau manteision i gleifion, cymunedau a’r boblogaeth ehangach yng Nghymru a thu hwnt.
“Mae’n fwy na phartneriaeth. Mae’n addewid i gydweithio er budd pawb,” meddai Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Wendy Larner. “Byddwn yn gweithio ar y cyd â’n partneriaid ym myd diwydiant i sicrhau newidiadau cadarnhaol, gan bennu safonau newydd ar gyfer cydweithio a chael effaith.”
Mae pob partner eisoes yn gwneud cyfraniad mawr i faes iechyd. Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn darparu gwasanaethau gwaed a chanser, yn ogystal â gwasanaethau iechyd eraill, ar gyfer pobl Cymru. Mae disgwyl i Ganolfan Ganser Felindre newydd agor yn 2027.
Mae ymchwil Prifysgol Caerdydd ym maes y gwyddorau biofeddygol a bywyd yn mynd i’r afael â heriau iechyd byd-eang. Gyda chymorth asedau blaengar, gan gynnwys Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd (CUBRIC) a’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, mae wedi datblygu dealltwriaeth newydd ym meysydd canser, niwrowyddoniaeth, heintiau, meddygaeth aildyfu a genomeg.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw sefydliad mwyaf y GIG yn Ewrop o hyd, gan wasanaethu bron i hanner miliwn o bobl a darparu gwasanaethau arbenigol. Mae’n gartref i Ganolfan Iechyd Genomig Cymru ac yn gyfrifol am yr unig ysbyty plant yng Nghymru.
I ddechrau, bydd Partneriaid Iechyd Caerdydd yn canolbwyntio ar gryfderau cystadleuol sydd wedi’u cydnabod yn fyd-eang, gan gynnwys canser, therapïau’r ymennydd a meddygaeth fanwl.
Bydd y tri phartner yn cyfuno eu hasedau a’u galluoedd i greu offer profi a llwybrau cydlynol. Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu i leihau rhwystrau drwy gyd-lywodraethu, hwyluso’r broses o wneud ymchwil a gweld data drwy ffedereiddio.
Yn unigol ac ar y cyd, mae gan y tri phartner asedau allweddol at eu defnydd ledled Cymru, sy’n amrywio o ganolfannau ymchwil blaengar a lleoliadau addysg i seilwaith treialu ac arbrofi pwrpasol a’r gallu i weithredu ar raddfa fawr.
Mae llwyddiannau cynnar, megis triniaethau arloesol ar gyfer clefyd Huntington, treialon newydd llwyddiannus i drin canser a chwmnïau deillio megis Draig Therapeutics, sydd oll yn seiliedig ar ddull modern o rannu data, yn dangos cyflymder, parodrwydd partneriaid a hygrededd o ran cyflawni.
Dywedodd Suzanne Rankin, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “I mi, Partneriaid Iechyd Caerdydd yw’r dull a modd i wneud y gorau o’r cyfle i sicrhau, ehangu, cyflymu a chydweithio ar fanteision yr ymyraethau a’r triniaethau newydd hyn sy’n newid bywydau pobl de-ddwyrain Cymru a’r byd.”
Y gobaith yw y bydd creu Partneriaid Iechyd Caerdydd yn galluogi’r sefydliadau i fanteisio ar ffynonellau cyllido, gan gynnwys buddsoddiad Llywodraeth y DU o £86 miliwn mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, a’r Gronfa Arloesi Rhanbarthol.
Mae cyfleoedd hefyd sy’n gysylltiedig â’r wyth prif sector yn Strategaeth Ddiwydiannol 2025 Llywodraeth y DU, yn enwedig y sectorau gweithgynhyrchu uwch, ynni glân a thechnoleg a digidol, a’r rôl gynyddol y bydd prifysgolion yn ei chwarae wrth ysgogi a sicrhau twf rhanbarthol.
Mae’r cyfle ar gael yn ne-ddwyrain Cymru i fanteisio ar feysydd lle mae mantais gystadleuol eisoes a lle mae’n dechrau arwain y ffordd.
Mae Partneriaid Iechyd Caerdydd mewn sefyllfa unigryw i gyflawni uchelgais y llywodraeth i gyflymu arloesi a thwf rhanbarthol a chenedlaethol yn y gwyddorau bywyd.
Ychwanegodd Carl James, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre: “Mae Partneriaid Iechyd Caerdydd yn cynrychioli cyfle trawsnewidiol i dde-ddwyrain Cymru, gan ddod ag arloesi, rhagoriaeth glinigol ac effaith gymunedol at ei gilydd. Mae’n ymwneud â mwy na buddsoddi’n unig; mae’n golygu llywio dyfodol lle mae’r rhanbarth yn arwain y ffordd yn rhan o bartneriaethau iechyd integredig.”